Eto unwaith mi ddyrchafaf
Unwaith eto mi ddyrchafaf

(Ochenaid at Dduw)
1,2,(3).
Eto unwaith mi ddyrchafaf
  Fy ochenaid tua'r nef,
Ac a wylaf ddagrau'n hidl
  Am ei bresenoldeb Ef:
Pwy a ŵyr na chaf fy ngwrando
  Gan Dwysog mawr y nen,
Ac na ddaw fy' nymuniadau
  Trist, hiraethlawn, oll i ben?

Fel y rhed llifogydd mawrion,
  Fel y chwyth yr awel gref,
Felly bydded fy ngriddfanau
  Yn dyrchafu tua'r nef:
Gwn, fy Nuw! nas
    gelli atal,
  Gwn nas
      gelli roi nacād
Un fendith īs y nefoedd
  Ag sydd imi er lleshad.

Mae rhyw 'stormydd mewn naturiaeth
  Ca's goreuon byd y rhai'n;
Cafodd seintiau a merthyron,
  Cafodd Iesu goron ddrain;
Mae cydwybod mewn ymderfysg,
  Mae ysprydoedd fo mewn poen,
Wedi chwilio gylch o gwmpas,
  Yn lletya yng nghlwyfau'r Oen.
ni :: nas
lleshad :: iachâd

- - - - -
1,(2).

(Ceisio Duw drachefn)

Unwaith eto mi ddyrchafaf
  Un ochenaid tua'r nef;
Gyda thaerni yr ymbiliaf,
  Am ei bresennoldeb ef:
Pwy a ŵyr na wrendy clustiau
  'R Hwn a greodd ddae'r a nen?
Ac na ddaw fy nymuniadau
  Trist, hiraethlon, oll i ben?

Wrth ei orsedd yr ymdrechaf,
  A fy ngolwg tua'r nef;
Mi dysgwyliaf hyd y wawrddydd
  Am ei bresenoldeb Ef:
Rhad faddeuant, gwawria bellach,
  Rho garcharor caeth yn rhydd,
Fu'n ymdreiglo mewn tywyllwch,
  'Nawr i weled goleu'r dydd.

William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Achor (<1876)
Alexander (J Roberts 1806-79)
Augsburg (<1875)
Ebenezer (Thomas J Williams 1869-1944)
Henryd (J A Lloyd 1815-74)
Sammah (D Emlyn Evans 1843-1913)

gwelir:
  Mae addewid nef o'm ochor
  O fy enaid gwan nag ofna
  Tyred Iesu i'r anialwch
  T'wynned heulwen ar fy enaid

(Groaning to God)
 
Once again I will raise
  My groaning towards heaven,
And I will cry copious tears
  For His presence:
Who knows I will not get my hearing
  Before the great Prince of heaven,
And that my sad, request, full of longing,
  Will not come all to an end?

As great floodtides run,
  As strong winds blow,
So will be my groans
  Rising towards heaven:
I know, my God! thou wilt not
      be able to stop,
  I know thou wilt not
        be able to give a refusal
Of one blessing under the heavens
  And that to do good to me.

There are some storms in nature
  The best of the world got those;
The saints and martyrs got,
  Jesus got a crown of thorns;
A conscience in tumult,
  Spirits though they be in pain,
Having searched all around,
  Are lodging in the wounds of the Lamb.
::
to do good to :: to heal/save

- - - - -
 

(Seeking God again)

Once again I will raise
  One groan towards heaven;
With earnestness I will plead,
  For his presence:
Who knows that the ears of Him who created
  The earth and the sky will not hear?
And that my sad, longing wishes
  Will not all come to fulfilment?

At his throne I will endeavour,
  With my gaze towards heaven;
I will watch until the dawn of day
  For His presence:
Free forgiveness, dawn henceforth,
  Set the captive prisoner free,
Who was wandering in darkness,
  Now to see the light of day.

tr. 2010,20 Richard B Gillion

 
 
Once again my sigh of sorrow
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Sweet Singers of Wales 1889

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~